
Rydym yn dod ag Arbor
i ysgolion Cymru
Y tymor diwethaf, fe wnaeth 9 o 10 ysgol a newidiodd eu system MIS yn Lloegr, ddewis Arbor. Gyda thros 6,000 o ysgolion o bob sector, ac ar draws bron pob Awdurdod Lleol yn Lloegr – ni yw’r system MIS mwyaf poblogaidd yn y DU.
Dylai eich system MIS eich rhyddhau o’ch gwaith prysur – nid ychwanegu ato. Mae Arbor yn system MIS modern, wedi’i leoli yn y cwmwl, sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i gydweithio mwy, lleihau baich gweinyddol, a chael effaith go iawn ar ddeilliannau myfyrwyr.
Dyma rai o’r meysydd allweddol rydym yn canolbwyntio arnynt i wneud yn siŵr fod Arbor yn gweithio i ysgolion yng Nghymru:
Y Gymraeg yn y system MIS: Defnyddiwch eich system MIS yn yr iaith rydych yn fwyaf cyfforddus â hi, a chyfathrebu â rhieni yn Gymraeg a Saesneg
Cofnodi gwybodaeth am ADY: Adrodd a rheoli cynhwysfawr o ran disgyblion ag ADY
Cefnogi’r holl ddatganiadau statudol: Cwblhewch ddatganiadau statudol gofynnol Cymru dim ond trwy glicio ambell waith, gan gynnwys y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, Datganiadau Presenoldeb, Datganiadau Ôl-16
Mewnforion ac allforion CTF: Rheoli disgyblion sy’n symud rhwng ysgolion yn esmwyth
Cymwysterau yng Nghymru: Cydlynu a chynnal eich arholiadau a’ch canlyniadau yn Arbor
Integreiddio di-dor â Hwb: Cadw eich offer trydydd parti ymddiriedus, a’u cysylltu ag Arbor

Pam dewis Arbor?
Rydym eisoes yn gweithio’n uniongyrchol gyda 40 Awdurdod Lleol ledled Lloegr trwy ein rhaglen bartner sy’n arwain y farchnad.
Byddwn ni’n gweithio gyda chi bob cam o’r ffordd i wneud yn siŵr fod Arbor yn llwyddiant yn eich ysgolion, a gwneud yn siŵr fod pob ALl wedi’i arfogi’n llawn i ddarparu cymorth lleol, ymddiriedus.
Cewch glywed gan ein partneriaid o Awdurdodau Lleol…
Darllenwch ein hadroddiad gyda HFL Education (Swydd Hertford), Cyngor Sir Hampshire ac Amazon Web Services ar sut maent yn rheoli trawsnewid digidol.
“I fudo 27 o ysgolion Swydd Hertford, roedd angen i HFL Education ac Arbor weithio mewn partneriaeth. Sefydlom onestrwydd ac ymddiriedaeth i gyflawni ein nodau cyffredin o dan bwysau enfawr.
Mae ein gwerthoedd sefydliadol yn cyd-fynd hefyd, felly pan roedd pethau’n heriol, roeddem yn onest gyda’n gilydd a chydweithiom ar wella’r broses fudo i bob ton o ysgolion.
Nid yw gweithio ar gyflymder ac ar raddfa fyth yn hawdd, ond caniataodd gwaith tîm a chyfathrebu cryf i ni fudo pob ysgol a oedd am newid, yn llwyddiannus.”
Catherine Tallis
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes, HFL Education
Cewch weld sut mae Arbor yn cymharu â SIMS
Mae ysgolion yn gweithio orau pan fydd pob un o’r staff yn cael mynediad at un system MIS. Mae Arbor yn cynnwys yr offer sydd ei angen ar bob un o’ch staff – beth bynnag yw eu rôl, a beth bynnag yw sector eich ysgol.
Symudwch o SIMS i Arbor a disodli systemau trydydd parti lluosog ag un system MIS, sydd wedi’i gysylltu’n llawn.
Beth mae ein hysgolion yn ei ddweud amdanom ni
Pwy ydym ni
Yn Arbor, rydym ar dân i drawsnewid y ffordd y mae ysgolion yn gweithio, er gwell. Mae Arbor, a sefydlwyd yn wreiddiol yn Lloegr yn 2012, wedi tyfu fel mai Arbor yw’r MIS mwyaf poblogaidd yn y DU. Mae dod â’n MIS i ysgolion i’ch helpu i arbed amser, poeni llai a chanolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf – eich myfyrwyr – yn ein cyffroi.
Ble i gyfarfod â ni
Yn ein stondin yn y Sioe Addysg Genedlaethol:
Llandudno, dydd Gwener 14 Mehefin
Caerdydd, dydd Gwener 4 Hydref