Dod â phob un yn eich ysgol gynradd ynghyd
Mewn ysgolion cynradd prysur â staff yn gwisgo sawl het, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi bod gan bawb yr offer cywir i’w rôl.
Gwyliwch rai o nodweddion mwyaf poblogaidd ein hysgolion cynradd ar waith:
Troi adroddiadau yn gamau gweithredu
Ymddygiad ac Asesu
Ymgysylltu â rhieni a gwarcheidwaid
Edrychwch i weld sut mae Arbor yn cymharu:
MIS i bawb yn eich ysgol
Credwn fod ysgolion yn gweithio orau pan fydd yr holl staff yn gallu defnyddio’r un MIS. Mae Arbor yn cynnwys yr adnoddau y mae ar eich holl staff eu hangen – beth bynnag yw eu rôl a beth bynnag yw cyfnod eich ysgol.
Un man, nid ym mhob man
Newidiwch yr adnoddau sydd ddim yn gweithio i chi am fodiwlau a nodweddion cwbl integredig Arbor, gan gynnwys taliadau o’r dechrau i’r diwedd ac adnoddau ymgysylltu â rhieni. Gallwch gyfuno systemau niferus blêr yn un, neu integreiddio’n hawdd â’ch hoff apiau – fel CPOMS, MyConcern, Civica a mwy.
Esblygu law yn llaw ag ysgolion
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o helpu ysgolion i weithio’n well. Rydym yn datblygu nodweddion i ysgolion Cymru, ac yn ein Map Cynnyrch rydym yn cynllunio beth fyddwn yn gweithio arno nesaf. Rydym yn gwrando’n astud ar beth mae ysgolion yn ei ddweud wrthym, fel y gallwn lunio’r MIS gorau ar y farchnad.
Platfform data o’r radd flaenaf
Nid oes un ffordd yn unig o ddadansoddi data eich ysgol. Mae Arbor yn rhoi’r hyblygrwydd i chi weithredu ar sail eich data fel y mae angen i chi wneud. Mae’n gwneud adrodd a dadansoddi yn hawdd – o dablau manwl i adroddiadau hyfryd.