
Cwestiynau Cyffredin
A oes angen i mi barhau i ddefnyddio SIMS ochr yn ochr ag MIS Arbor?
Nac oes, mae Arbor yn disodli SIMS yn llawn, ac yn eich galluogi i atgyfnerthu llawer o’ch systemau trydydd parti, hefyd.
A allwch chi fudo ein data hanesyddol o SIMS i Arbor?
Gallwn. Byddwn yn mudo’r holl ddata o SIMS i Arbor.
A alla’ i ddewis Arbor ar gyfer fy ysgol?
Fel arfer, bydd tîm eich Awdurdod Lleol eisiau bod yn rhan o’r penderfyniadau y mae eu hysgolion yn eu gwneud am MIS. Yn y lle cyntaf, siaradwch â thîm canolog eich Awdurdod Lleol am eich diddordeb mewn Arbor.
Pa gymwysiadau trydydd parti y mae Arbor yn integreiddio â nhw?
Mae MIS Arbor yn dod â’ch holl systemau, data a chyfathrebu ynghyd mewn un man, gan roi un ffynhonnell wybodaeth i chi. Ond, rydym yn gwybod bod yna systemau o ansawdd da sy’n hoff gan ysgolion. Felly, rydym yn integreiddio â channoedd o systemau trydydd parti, naill ai’n uniongyrchol trwy ein API neu drwy integreiddwyr systemau fel Wonde, Groupcall neu SalamanderSoft.
A fydd Arbor yn caniatáu i ni gwblhau holl ffurflenni statudol Cymru?
Bydd. Mae map trywydd ein cynnyrch yn cynnwys y diwygiadau angenrheidiol i’n swyddogaeth ffurflenni statudol bresennol, er mwyn cynhyrchu ffeiliau sy’n cydymffurfio â manylebau Cymru. Mae hyn yn cynnwys creu eitemau neu feysydd data newydd, teilwra setiau data sy’n benodol i Gymru a’r allbynnau XML sy’n ofynnol ar gyfer y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, y Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion, ffurflenni Presenoldeb ac Asesu.
Ydych chi’n integreiddio ag unrhyw atebion amserlennu?
Mae TimeTabler bellach yn rhan o The Key Group! Bydd yr ysgolion, y cynhyrchion a’r tîm y tu ôl i TimeTabler yn ymuno ag Is-adran MIS, ac yn eistedd ochr yn ochr â thîm Arbor. Gan fod TimeTabler yn dod yn rhan fewnol o’r cwmni, gall The Key Group bellach gynnig meddalwedd amserlennu flaengar sydd wedi’i hintegreiddio’n ddwfn yn Arbor – gan roi ffordd hyd yn oed yn haws i ysgolion gydgysylltu eu hamserlenni a’u llif gwaith MIS. I ysgolion yng Nghymru, bydd hyn yn dod â llif gwaith gwell a phrofiad hyd yn oed yn fwy cydgysylltiedig wrth weithio gyda thimau Arbor a TimeTabler.
Ydych chi’n cynnig ateb ar gyfer cyllid a chyfrifon ysgolion?
Ydym, mae Arbor Finance (RM Finance gynt) bellach yn rhan o deulu Arbor! Arbor Finance yw ein system gyllid ddi-bapur uchel ei chlod ar gyfer ysgolion a gynhelir mewn Awdurdodau Lleol, sy’n ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i reoli cyllid ysgolion.